Croeso i Barcud
Mae BARCUD yn gwmni adnoddau sy’n darparu Unedau Darlledu Allanol, Dwy Stiwdio wedi eu hadeiladu’n bwrpasol, Adnoddau Ôl-Gynhyrchu ac Unedau Un Camera.
Wedi ei sefydlu yn 1982 gan gynhyrchwyr ar gyfer cynhyrchwyr, mae staff galluog a chreadigol BARCUD yn sicrhau gwasanaeth proffesiynol sy’n cael ei gydnabod drwy’r diwydiant Teledu.
Mae’r adnoddau yn cynnwys chwe stafell dybio, stafelloedd golygu ac adnoddau dylunio a graffeg.
Mae gan BARCUD gysylltiad â rhwydwaith BT ynghyd â’r gallu i dderbyn lluniau drwy loeren.
I’r diwydiant teledu cyfan, mae gan BARCUD enw fel cwmni o'r safonau uchaf yn ei faes.
Mae uned darlledu allanol digidol y cwmni wedi teithio hyd a lled y Deyrnas Gyfunol, Iwerddon ac Ewrop ar gais cynhyrchwyr rhaglenni.
Yng Nghaernarfon mae'r brif Stiwdio 6,500 troedfedd sgwâr. Cyflenwid ystod helaeth o raglenni yma – o adloniant ysgafn i faterion cyfoes.
.




Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD
+44 (0) 1286 684300
